Cyfle i holi awdur plant Carreg Gwalch

Pwy sy’n gêm?? Ydach chi erioed wedi sgwennu llythyr at eich hoff awdur, a pheidio cael ateb?? Dwi’n cofio sgwennu llythyr at fy hoff awdures Saesneg sef Jacqueline Wilson pan oeddwn i’n rhyw 10 oed ond ches i erioed ateb. Am siom.  Hi sgwennodd stori Tracy Beaker a Double Act. Dwi ddim yn meddwl i mi erioed faddau iddi’n iawn … Dwi’n cofio hefyd i mi deimlo’n hynod eiddigeddus o fy ffrind am gael llythyr gan neb llai na T Llew Jones! Tân ar y Comin ydi un o fy hoff lyfrau i erioed!

Mae awdur sy’n apelio o genhedlaeth i genhedlaeth yn dweud y cyfan, ac mae’r llyfrau’n drysorau. Mae ‘na rywbeth arbennig am ddod i adnabod meddwl y person sydd wedi creu stori dda, wedi creu cymeriadau difyr a doniol, ac wedi creu bydoedd newydd.

Petawn i’n holi awdur, mi faswn i eisiau gwybod pethau gwirion , pethau mor syml fel hoff liw neu hoff raglen deledu’r awdur. Mae pethau mor syml â hynny, yn gwneud i ni ddod i adnabod person. Mi faswn i hefyd eisiau gwybod os oes rhan o bersonoliaeth yr awdur yn perthyn i gymeriad a beth fyddai’r cymeriad yn ei wneud mewn sefyllfa arbennig neu ddoniol.Dim ond i mi gael dod i nabod cymeriad yn well.

Beth am fynd ar ein gwefan i ddarganfod eich hoff awduron; http://www.carreg-gwalch.com/department/llyfrau_plant/ Yn eu mysg CARYL LEWIS, MYRDDIN AP DAFYDD, CASIA WILIAM, GARETH F WILLIAMS, EMILY HUWS, SIÂN LEWIS,  AC ANGHARAD TOMOS.

YNA EWCH ATI I BARATOI EICH CWESTIYNAU EICH HUNAIN.  CYSYLLTWCH GYDA CARREG GWALCH DRWY’R BLOG YMA NEU FACEBOOK;  https://www.facebook.com/llyfrauplant?ref=hl

EDRYCHWCH AR Y WE AM SYNIADAU. DYMA HOLIADUR GAN T LLEW JONES; file:///C:/Users/user/Downloads/AA_TLlewJones.pdf

A DYMA GYFWELIAD HYNOD DDIDDOROL GAN MICHAEL MORPURGO, AWDUR WAR HORSE neu CEFFYL RHYFEL (addasiad Casia Wiliam); https://www.youtube.com/watch?v=-MV9WqzT3TM

POB LWC!!!!

Amser bwrw eich pleidlais!

Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf… edrych ymlaen at “Y Gêm” gan Gareth F Williams

Clawr Y Gem

“Y Gêm” gan Gareth F Williams, enillydd Gwobr Tir Na Nog 2014…ALLAN YR HYDREF HWN!

Stori rymus sy’n adrodd hanes Alun y Gelli a Tecwyn Tŷ’r Nant yn hogiau ac yn filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Yn rhan gyntaf y nofel, cawn glywed am ddirgelwch yr hen dŷ.  Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Alun yn dal i deimlo arswyd y lle hwnnw.  Beth ddigwyddodd rhwng y ddau ffrind ifanc yn Yr Hen Dŷ flynyddoedd maith yn ôl?

Mae gemau pêl-droed pentrefi’r cwm yn gefndir i’r stori.  Felly hefyd, y gêm bêl droed a chwaraewyd ar ddiwrnod Nadolig 1914 pan gafwyd heddwch undydd rhwng milwyr dwy fyddin a oedd i fod yn elynion i’w gilydd.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae cysgodion erchyll y rhyfel yn dal i boeni Alun.  Gwelwn fod cyfeillgarwch, aberth a chariad hefyd dan gwmwl rhyfel.  Cwmwl rhy drwchus o lawer i hyd yn oed gêm bêl-droed gyfeillgar rhwng dau elyn…

Addas ar gyfer CA2, gwaelod CA3.

Ail-gread o gadoediad y Nadolig, 1914:

 https://www.youtube.com/watch?v=CApm6Y7CXTY

Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.. cyfle i ddathlu gwaith Michael Morpurgo

 

Mae hi’n 2014 ac felly mae hi’n gan mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918).  Wrth gwrs, mi oedd y blynyddoedd hynny’n rhai anodd iawn led-led y byd ond mae carreg filltir o’r fath yn gofyn i ni goffau a chofio ein hanes.

Mae’n gyfle hefyd i ni sylwi,  sut mae pethau fel  cymdeithas, technoleg a gwisg wedi newid dros 100 mlynedd.  

Wrth gwrs, mae llawer iawn o sylw’n cael ei roi ar y teledu ac yn y papurau newydd ar hyn o bryd er mwyn cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf.  Enw arall arno yw’r Rhyfel Mawr.

Mae cymaint o sylw’n cael ei roi nes i mi hyd yn oed ddod ar draws hoff gêm-fwrdd y milwyr Almaenig yn y ffosydd!! Rhywbeth o’r enw Mensch Aergere Dich Nicht. Ylwch:

 Efallai y dylwn i ddechrau chwarae hwn yn lle Candy Crush weithiau!

http://www.bbc.co.uk/news/magazine-29050369

Mae’r wefan yma’n dda iawn hefyd:

http://www.bbc.co.uk/schools/0/ww1/

Awdur amlwg sy’n dod i fy meddwl i wrth feddwl am y Rhyfel Byd Cyntaf yw Michael Morpurgo.  Dwi’n cofio bod wrth fy modd hefo’r llyfr Private Peaceful ddiwedd fy nghyfnod yn yr ysgol gynradd. Llyfr am filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf ydi o.

Efallai eich bod chi wedi darllen neu wylio’r ffilm War Horse?

Wel, Michael Morpurgo sydd wedi sgwennu War Horse hefyd. Beth am ddarllen War Horse yn y Gymraeg sef Ceffyl Rhyfel? Dyma stori arall sydd hefo’r rhyfel yn gefndir iddi:

ceffyl rhyfel

Ond nid stori hanes a rhyfel yn unig sydd yma. Mae yma hefyd stori dda am geffyl (Shoni) a’i gyfaill  (Albert) yn cael eu gwahanu.  Os ydach chi’n hoff o anifeiliaid – gobeithio na wnewch chi ei ffeindio hi rhy drist! Ond a fydd Shoni ac Albert yn gweld ei gilydd eto?   Darllenwch hi! 

A dyma adolygiad i chi:

http://www.gwales.com/goto/biblio/en/9781845272951/

Hwyl am rwan!

Cwmwl dros y cwm gan Gareth F Williams: enillydd gwobr Tir Na Nog 2014

Gareth F Williams yw enillydd Gwobr Tir Na Nog 2014 am ei nofel Cwmwl Dros y Cwm. Llongyfarchiadau mawr i Gareth.

A dyma glip fideo o Gareth yn sôn ychydig am ei lyfr:

https://www.youtube.com/watch?v=uYxuPGj-UEg

A dyma sgwrs hefo Gareth. Yn ôl y sôn mae o’n “hen foi iawn”!! :

http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/awdur/gareth-f-williams.shtml

Sgwn i faint ohonoch chi sydd wedi darllen llyfrau sydd wedi ennill y wobr fawr hon dros y blynyddoedd?

Ffaith i chi.. mi gafodd Gwobrau Tir Na Nog ei sefydlu yn 1976.  Pam meddech chi? Er mwyn codi safon llyfrau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

OND

Be ydach chi’n ei feddwl?

Mi fasa’n braf cael gwybod pa lyfrau sydd wedi ennill gwobr Tir Na Nog sydd wedi eich plesio chi dros y blynyddoedd…ydyn nhw wedi eich plesio chi o gwbl hyd yn oed?

Cofiwch fod yn onest!

519lcemgr1l-_sy300_.jpg

Broliant:

Ychydig cyn 8.30 y bore ar 14 Hydref 1913, bu farw 439 o ddynion a bechgyn mewn ffrwydrad ofnadwy yng nglofa Senghennydd.  Dim ond wyth oed oedd John Williams pan symudodd ef a’i deulu o un o bentrefi chwareli’r gogledd i fyw i Senghennydd yng nghymoedd y de.  Edrychai ymlaen at ei ben-blwydd yn dair ar ddeg oed, pan fyddai’n cychwyn gweithio yn y pyllau glo gyda’i dad a’i ffrind o’r tŷ drws nesaf, Bili Dando.

Ond doedd John ddim yn gwybod bod yna gwmwl du ar ei ffordd i Senghennydd – cwmwl a fyddai’n bwrw ei gysgod dros y cwm cyfan am byth.

 

 

Darn bach o bapur: Angharad Tomos

Rebel â hanner…ond rebel gwerthfawr

Mae hi’n fis Medi’n barod ac mae’r wythnosau wedi hedfan heibio ers Eisteddfod Llanelli 2014!  Rwan, un ddynes enwog o ardal Llanelli ydi Eileen Beasley.  Ydach chi wedi clywed amdani?? Dynes â hanner ac un a oedd hefo tân yn ei bol dros yr iaith Gymraeg (dim yn llythrennol ond mi oedd ganddi dân) .  

Efallai i chi weld y ddrama Dyled Eileen yn yr Eisteddfod?  Pe bai chi wedi bod ddigon lwcus i weld y ddrama honno, mi fyddwch chi’n hen gyfarwydd â’r ddynes gref honno sy’n cael ei phortreadu gan Angharad Tomos yn y llyfr Darn bach o bapur:

darn_bach_o_bapur_1024x1024

Mi faswn i’n hogan hapus iawn petawn i’n hannar cystal dynas ag oedd Eileen!   Beth wnaeth hi’n union felly?  Wel, gwrthod talu treth Cyngor Llanelli nes iddi dderbyn bil yn y Gymraeg.  A do wir – mi gafodd hi a’i gŵr Trefor eu hanfon i’r llys 16 o weithiau dros gyfnod o 8 mlynedd am beidio ildio!  

Dduda i ddim mwy, ond os ydach chi awydd deffro’r tân yn eich boliau dros yr iaith Gymraeg neu unrhyw beth sy’n bwysig i chi,  wel darllen Darn bach o bapur a chael eich dylanwadu gan Eileen ydi un o’r camau cyntaf!

Rhesymau eraill dros ddarllen “Darn bach o bapur”: penodau byr, lluniau du a gwyn a tafodiaith hwntws yn y ddeialog i chi sydd o’r de.  Peidiwch â phoeni Gogs – wnaiff hynny ddim effeithio ar eich mwynhad chi o gwbl, mae’r naratif ei hun yn niwtral!

Broliant:

Roedd Delyth Besley wrth ei bodd yn chwarae’r piano oedd yn stafell fyw’r teulu yn Llangennech.  Ond pan ddaeth cnoc y beili ar y drws bu’n rhaid i biano’r ferch fach fynd.  A daeth y beili’n ôl yn gyson rhwng 1952 a 1960 i fynd â rhagor o eiddo’r teulu – y soffa, y bwrdd, y cadeiriau a’r drych..Pam? Am fod Trefor ac Eileen, tad a mam Delyth ac Elidyr, yn gwrthod talu treth Cyngor Llanelli nes iddyn nhw dderbyn bil yn Gymraeg.

Dyma’r stori wir am frwydr anodd un teulu bach dros ffurflen dreth, a’r effaith gafodd hynny ar yr iaith Gymraeg.  Stori fawr am ddarn bach o bapur!